Ar gyfer athrawon ac arweinwyr gyrfa

Bodloni meincnodau Gatsby

Mae Rhaglen Darganfod! Gyrfaoedd Creadigol wedi'i dylunio i'ch helpu chi alluogi myfyrwyr i lywio eu ffordd i mewn i'r diwydiannau creadigol. Dyma sut allwn eich helpu chi i ddefnyddio'r adnoddau yn eich ysgol a bodloni mwy o Feincnodau Gatsby.

Ar gyfer meincnod Gatsby un...porwch drwy'r wefan hon, a defnyddiwch Chwilio gyrfaoedd i sicrhau bod gyrfaoedd creadigol yn rhan o'ch rhaglen gyrfaoedd sefydlog.

Ar gyfer meincnod Gatsby dau a thri... defnyddiwch ein cynlluniau gwersi i wneud pobl yn fwy agored at gyfleoedd swyddi creadigol a helpu myfyrwyr i adnabod sut mae eu sgiliau yn gweddu â'r cyfleoedd hyn. Gallwch ddefnyddio Cyflwyno'r diwydiannau creadigol, Dod o hyd i rôl i chi neu ein rhaglen fideo, fydd ar gael yn ystod Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd ym mis Mawrth 2021.

Ar gyfer meincnod Gatsby pedwar... cysylltwch eich cynlluniau cwricwlwm presennol gyda gyrfaoedd creadigol, er enghraifft, mewn mathemateg gallwch drafod cynhyrchu taflenni cyllido, mewn Saesneg gallwch geisio ysgrifennu sgript, neu gynnal arddangosfa mewn celf, gan roi cyfle i fyfyrwyr roi cynnig ar swyddi megis cynhyrchydd, trefnydd digwyddiadau a hyrwyddwr cyfryngau cymdeithasol. Defnyddiwch eich adnoddau amser Tiwtor fel cynnwys defnyddiol fel sail ar gyfer gweithgareddau.

Ar gyfer meincnod Gatsby pump... cysylltwch â Siaradwyr Dros Ysgolion partner er mwyn gwahodd gweithwyr proffesiynol y diwydiant creadigol i'ch ysgol i gynnal sgwrs rithiol.

Ar gyfer meincnod Gatsby chwech... gweithiwch gyda chyflogwyr i drefnu profiad gwaith rhithiol. Edrychwch ar ein hadran Chwilio cyfleoedd i weld a oes unrhyw gyflogwyr yn cynnig adnoddau neu ddigwyddiadau ar-lein ar gyfer eich myfyrwyr.

Ar gyfer meincnod Gatsby saith.. Edrychwch ar ein ffilmiau Cwrdd â gweithwyr proffesiynol creadigol a gynhyrchwyd gan ddarparwyr arbenigol y diwydiant creadigol, ar gyfer fideos a ellir eu defnyddio i roi hwb i ddysgu.

Am wybodaeth ar y gweithgareddau ar-lein sy'n cyfrif fel cyfarfod ystyrlon gyda chyflogwyr (meincnod Gatsby pump) a phrofiadau yn y gweithle (meincnod Gatsby chwech), lawrlwythwch: Canllaw ar ymgysylltu â chyflogwr ar-lein yn Cwmpas (PDF)