Ar gyfer myfyrwyr a rhieni

A oes rhaid i chi fod yn fedrus yn nhermau celf?

Dim ond rhai o'r swyddi yn y diwydiannau creadigol sy'n seiliedig ar gelf. Mae galw am bynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn y diwydiannau creadigol hefyd. Er enghraifft, mae nifer o swyddi yn y diwydiannau animeiddio, VFX a gemau yn gofyn am bobl sydd â chefndiroedd mewn mathemateg, gwyddoniaeth a rhaglennu cyfrifiadurol  Mae angen i dechnegwyr theatr ddeall dosbarthiad pwysau a dimensiynau. Mae angen i wneuthurwyr tecstilau wybod am gemeg, ffiseg, mathemateg a pheirianneg.

Fel unrhyw sector, mae galw am bobl â sgiliau busnes yn y diwydiannau creadigol. Mae galw am gyfrifwyr, cyfreithwyr, arbenigwyr cyfryngau cymdeithasol, pobl sy'n gweithio ym maes adnoddau dynol, dadansoddwyr data a gweinyddwyr.  Ym meysydd theatr, ffilm a chynhyrchu teledu, mae galw am drydanwyr, seiri coedi a phlastrwyr hefyd.