Diffinio'r diwydiannau creadigol
Diffiniwyd y diwydiannau creadigol am y tro cyntaf gan y llywodraeth ym 1997. Mae eu his-sectorau yn cynnwys:
- Cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio, fel actio, a'r celfyddydau gweledol, fel peintio
- Crefftau, megis gwehyddu, creu dodrefn a chreu gemwaith
- Ffilm, teledu, animeiddio, effeithiau gweledol, fideo, radio a ffotograffiaeth
- Gemau fideo, rhith-wirionedd a realiti estynedig
- Amgueddfeydd, orielau a threftadaeth, megis plastai ac eglwysi cadeiriol
- Cyhoeddi a llyfrgelloedd
- Dylunio, yn cynnwys dylunio cynnyrch, dylunio graffeg a ffasiwn
- Pensaernïaeth
- Hysbysebu a marchnata
Mae swyddi yn y diwydiannau creadigol yn amrywio o swyddi fel gwehyddu ac actio i ddadansoddi data a rhaglennu rhwydwaith. Mae galw am wyddonwyr, artistiaid, pobl â sgiliau busnes a'r rheiny sy'n cyfuno pob un o'r tri.