Cyflwyno digwyddiad neu gyfle

Crëwch ddigwyddiad i roi profiad ymarferol i bobl ifanc o sut beth yw gyrfa greadigol.  Gall digwyddiad fod yn unrhyw beth, o:

  • Cystadleuaeth (cystadleuaeth sgiliau a gynhelir yn lleol, rhanbarthol neu genedlaethol)
  • Gweithdy neu ddosbarth meistr (gweithgaredd yn yr ysgol a ddarparir gan gyflogwr)
  • Ymweliad â gweithle (ee diwrnod blasu, taith, gweithdy Darganfod)
  • Profiad gwaith
  • Lleoliad gwaith neu interniaeth â thâl
  • Cwrs neu raglen tymor hir
  • Digwyddiad (digwyddiad sgiliau neu yrfaoedd yn lleoliad y cyflogwr, mewn ysgol neu leoliad ar wahân)

Gallwch hyrwyddo eich cyfle ar y wefan hon. Mae'n rhad ac am ddim i sefydliadau sydd eisiau hyrwyddo digwyddiad neu weithgaredd sy'n ceisio ysbrydoli pobl ifanc rhwng 14-24 oed i ddilyn gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol.

Noder, nid ydym yn gallu hysbysebu swyddi, cyfleoedd â thâl, neu gyrsiau llawn amser AU/AB. Gwirir yr holl restrau cyn eu cyhoeddi, felly darllenwch ein canllawiau cyn cyflwyno.

Arddangosir eich cais ar ein tudalen Canfod Digwyddiad, lle all pobl ifanc ddod o hyd i'ch gwefan yn uniongyrchol gyda chlic, i archebu neu gael rhagor o wybodaeth. 

Opportunity details
Tweet details
Your details