I gyflogwyr

Cynigiwch brofiad gwaith rhithiol

Gall cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr, yn enwedig rhai o dan 18 oed, fod yn gryn her i gyflogwyr ar y gorau. Mae wedi bod bron yn amhosib yn ystod pandemig Covid-19.

Gall Siaradwyr Dros Ysgolion helpu cyflogwyr i gynnig rhaglenni profiad gwaith rhithiol i bobl ifanc o ysgolion gwladol, na fyddai â mynediad at y cyfleoedd hyn fel arall. Y fantais o gynnig rhaglen profiad gwaith rhithiol yw nad yw'n cymryd lle mewn swyddfa. Hefyd, mae'n golygu fod pobl ifanc yn gallu gwneud profiad gwaith o le bynnag maen nhw.

Gall Siaradwyr Dros Ysgolion gynnig cymorth i gyflogwyr sy'n awyddus i gynnig profiad gwaith rhithiol. Maent hefyd yn cynnig offer ac adnoddau am ddim i gefnogi sefydliadau ar bob cam o'r daith, yn cynnwys:

  • Porth recriwtio wedi'i ddiogelu a chanllaw ar recriwtio
  • Canllawiau cyfarwyddol
  • Modelau a thempledi ar gyfer lleoliadau
  • Syniadau am weithgareddau
  • Trosolwg ar arfer gorau

Gall Siaradwyr Dros Ysgolion eich helpu i oresgyn rhai o'r heriau sydd ynghlwm â derbyn pobl ifanc ar leoliadau pa un ai eich bod yn fusnes bach, sefydliad diwylliannol neu gorfforaeth gyda nifer o swyddfeydd.

I gael gwybod mwy, ewch i: Profiad gwaith rhithiol Siaradwyr Dros Ysgolion