Overview
Gwybodaeth am y cyfle
Mae gan Gwasanaeth Archifau Gwynedd ddau Archifdy, yng Nghaernarfon a Dolgellau sydd gyda’u ei gilydd yn gwarchod 800 mlynedd o hanes y sir. Mae Archifdy Caernarfon yn rhoi mynediad ac yn casglu deunydd yn ymwneud gyda’r hen sir Gaernarfon. Mae’r casgliadau yn cynnwys llawysgrifau, cyfrolau, gohebiaeth, dyddiaduron, lluniau, mapiau a phapurau newydd ar amrywiaeth eang o bynciau. Gellir gweld y deunydd hyn yn yr ystafell ymchwil. Hefyd mae gennym Wasanaeth Addysg ble mae ein Swyddog Addysg yn darparu deunydd ac yn ymweld âg ysgolion. Mae gennym hefyd Wasanaeth Cadwraeth ble mae’r Swyddog yn atgyweirio dogfennau ac yn rhwymo llyfrau. Yn y gweithdy bwriedir cael cyflwyniad i’r Archifdy ac i’r casgliadau, ac i’r swyddi gwahanol sydd yn bodoli yn yr Archifdy. Wedyn bydd yna gyfle i fynd o amgylch yr adeilad i weld sut mae’r casgliadau yn cael eu cadw. Yna bydd y myfyrwyr yn mynd ati i gael blas ar y mathau gwahanol o waith sydd yn cael ei gyflawni gan yr Archifdy drwy gatalogio, creu arddangosfa fechan, ymateb i ymholiadau ac atgyweirio dogfennau gyda’r staff. Ni fydd angen i’r ysgolion ddarparu unrhyw gyfarpar ar gyfer y gweithdy.
Cyfle ar gael ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth
Cysylltwch â'r cwmni am y cyfle hwn
Cwblhewch y ffurflen isod