Overview
Gwybodaeth am y cyfle
15 sesiwn ar gael (Uchafswm o 3 sesiwn fesul ysgol/coleg) Ar gael yn Saesneg a Chymraeg, gadewch i'ch Pobl Ifanc gael eu hysbrydoli gan Hanna Peasley, Uwch ddylunydd Graffig ar gyfer Print Sauce sy'n darparu atebion arwyddion, brandio a dylunio eithriadol ledled y DU. Bydd Hanna yn trafod ble dechreuodd ei hangerdd dros Ddylunio Graffig yn nosbarth Graffeg Mrs Edward yn Ysgol Gyfun Plasmawr, i'w gradd ym Mhrifysgol De Cymru a'i thaith i fewn i'r Sector Dylunio Graffig. Yn dilyn hyn, bydd eich Pobl Ifanc yn cael eu cyffroi gan weithdy rhyngweithiol dan arweiniad Hanna, a fydd yn herio'r cyfranogwyr i ateb briff dylunio cwsmer bywyd go iawn.Cysylltwch â'r cwmni am y cyfle hwn
Cwblhewch y ffurflen isod