Overview
Gwybodaeth am y cyfle
Dechreuodd Catrin Williams arddangos ei gweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au ac ers hynny mae ei gwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe'i magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond mae wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yng Nghymru - yw un o'r themau cryfaf yng ngwaith Catrin Williams; mae'r dresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi gweu drwy'i gilydd ac yn mynnu sylw. Dros amser datblygodd y themâu cartrefol a theuluol i gynnwys elfennau o'r symbolau twristaidd o Gymru fel y llieiniau golchi llestri ystrydebol. Mae atsain o'i thirluniau cynnar o fynyddoedd y Berwyn yn amlwg yn ei darnau diweddaraf ond arfordir a thraethau penrhyn Llŷn yw'r ysbrydoliaeth bellach.
Gweithdy
Mae Catrin wedi cynnal gweithdai ar gyfer plant ysgol o bob oed drwy Gymru, yn ogystal ag ar brojectau penodol drwy Brydain.
Yn y gweithdy hwn bydd yn mynd â’r
plant/myfyrwyr ar daith greadigol drwy ei 35 mlynedd fel artist proffesiynol gyda chyflwyniad yn cynnwys arddangos rhai o’i gweithiau. Ar ôl cyflwyno’i hun a’i gwaith celf bydd Catrin yn cael y plant/myfyrwyr i greu gwaith newydd drwy anogaeth.
Gall y gweithdy fod yn ddiwrnod neu’n hanner diwrnod i gyd-fynd ag amserlen yr ysgol.
Dim angen adnoddau, rwyf yn gweithio’n ddwyieithog.
How many
Fyny at 30 ym mhob grwp. Gall yr ysgol dewis sawl gweithdy.