Mae Ffion Pritchard yn artist a hwylusydd lleol y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar fudd y celfyddydau o fewn cymdeithas, boed hynny drwy waith cymunedol, celf mewn gofal iechyd neu bŵer cathartig adrodd straeon. Ers graddio o Brifysgol Brighton gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Darlunio yn 2017, mae ymarfer Ffion wedi aros yn eang ac eclectig gan ymestyn ar draws ffilm, paent a darlunio masnachol.
Ym myd ffilm, gweithiodd Ffion fel crëwr cynnwys i HANSH, ac is-gangen ar-lein o S4C, yn 2020-2021, Ers hyn, mae hi wedi ysgrifennu, cynhyrchu a chyfarwyddo teitlau ar gyfer cleientiaid fel BBC Cymru, Gŵyl Bypedau Rhyngwladol Moving Parts, AM a Wicked Wales, gan Wobr y Rhaglen Ddogfen Orau o Gymru yng Ngŵyl Ffilm Focus Wales, Gwobr Cyfrwng Cymysg yn Ephemere, Llundain, a sawl dangosiad gŵyl ffilm ryngwladol.
Gwaith cyfranogol yw gwir angerdd Ffion, gyda phrofiad eang o weithio gyda grwpiau fel babanod a phlant bach, clybiau ieuenctid, caffis dementia ac elusennau amrywiol. Mae Ffion yn gweithio'n rhan-amser fel swyddog cymorth creadigol i GISDA, elusen sy'n darparu cymorth i bobl ifanc ddigartref neu agored i niwed, yn ogystal â'i hymarfer cyfranogol llawrydd a'i hastudiaethau ar y rhaglen MA Celfyddydau, Iechyd a Llesiant ym Mhrifysgol De Cymru.
Yn y gweithdy yma, bydd dull 'stop motion' yn cael ei ddefnyddio i archwilio hunaniaeth a synnwyr o'n hunain. Ar y cyd, byddwn yn dylunio pypedau o'n hunain, creu awyrgylch iddyn nhw, ac yn creu stori fer i roi cyd-destun i'n cymeriadau.
Offer sydd eu hangen ar yr ysgol ar gyfer y gweithdy.
• Mi fyddai yn dod a 2 gamera efo fi, ond os oes ipads yn ychwanegol byddai yn grêt!
• Papur lliw
• Sisyrnau
• Pinnau ffelt
• Unrhyw paraphanalia fel plu, pom poms, pipe cleaners fydd ar gael byddai yn grêt!
• Cardfwrdd