Canfod! Gyrfaoedd Creadigol – Pecyn Cymorth (Diwydiant)
Mae’n Pecyn Cymorth wedi’i deilwra i ddarparu arweiniad a chyngor i bartneriaid sy’n cynnal gweithgareddau a digwyddiadau i bobl ifanc fel rhan o’r prosiect arbennig hwn.
Darperir yr isod:
- Gwybodaeth am bwysigrwydd a’r manteision sy’n ymwneud â chefnogi’r prosiect – gan gynnwys syniadau a chyngor pellach.
- Sut mae mynd ati – o gofrestru eich sesiwn i syniadau ar sut i gynnal sesiwn rhyngweithiol a diddorol i bobl ifanc, ynghyd â chefnogaeth o ran sut i gynnal digwyddiadau cynhwysol a hygyrch.
- Cynnal digwyddiadau diogel – cyngor ar sut i gynnal digwyddiadau sy’n cwrdd â gofynion diogelu plant ac iechyd a diogelwch. Darperir templedi asesiad risg a ffurflenni caniatâd.
- Rhestr Wirio – sicrhewch eich bod yn gwirio popeth cyn mynd ati i gynnal eich digwyddiad.
- Cwestiynau Cyffredin – atebion i gwestiynau cyffredin gan bartneriaid o’r diwydiant
- Delweddau a dyluniadau’r ymgyrch – fel bod modd ichi ddefnyddio’r logos a hyrwyddo’r prosiect ymhellach.