Ar gyfer myfyrwyr a rhieni

Beth yw'r diwydiannau creadigol?

Diffinio'r diwydiannau creadigol

Diffiniwyd y diwydiannau creadigol am y tro cyntaf gan y llywodraeth ym 1997.  Mae eu his-sectorau yn cynnwys:

  • Cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio, fel actio, a'r celfyddydau gweledol, fel peintio
  • Crefftau, megis gwehyddu, creu dodrefn a chreu gemwaith
  • Ffilm, teledu, animeiddio, effeithiau gweledol, fideo, radio a ffotograffiaeth
  • Gemau fideo, rhith-wirionedd a realiti estynedig
  • Amgueddfeydd, orielau a threftadaeth, megis plastai ac eglwysi cadeiriol
  • Cyhoeddi a llyfrgelloedd
  • Dylunio, yn cynnwys dylunio cynnyrch, dylunio graffeg a ffasiwn
  • Pensaernïaeth
  • Hysbysebu a marchnata

Mae swyddi yn y diwydiannau creadigol yn amrywio o swyddi fel gwehyddu ac actio i ddadansoddi data a rhaglennu rhwydwaith.  Mae galw am wyddonwyr, artistiaid, pobl â sgiliau busnes a'r rheiny sy'n cyfuno pob un o'r tri.